Cost of Living Support Icon

Craffu

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg bedwar Pwyllgor Craffu. Eu gwaith yw archwilio gwasanaethau a materion sy’n effeithio ar bobl sy’n byw ym Mro Morgannwg a gwneud argymhellion i’w gwella ar gyfer y dyfodol.

 

  • Beth yw Craffu

    Mae craffu yn rhan allweddol o strwythur gwleidyddol y Cyngor ac yn chwarae rôl bwysig wrth sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu darparu’n effeithiol, yn effeithlon ac er budd trigolion a’r rhai sy’n gweithio neu’n ymweld â Bro Morgannwg drwy wrando ar bobl leol, herio ac ysgogi gwneud penderfyniadau ac, lle bo’n angenrheidiol, ceisio gwelliant er budd y cyhoedd. 

     

     

    Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi penodi pedwar Pwyllgor Craffu, sy’n dod ynghyd hefyd i adolygu perfformiad y Cyngor yn erbyn Vale 2030. (Cynllun Corfforaethol). 

     

     

    Rôl ein Pwyllgorau Craffu yw edrych ar y gwasanaethau a’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ym Mro Morgannwg ac i gyflwyno argymhellion effeithiol i’w hystyried gan Gabinet y Cyngor a meysydd eraill.

     

    Craffu a’r Cabinet

    Mabwysiadodd Cyngor Bro Morgannwg system gwneud penderfyniadau ar sail Arweinydd a Chabinet, gyda Phwyllgorau Craffu wedi’u sefydlu i gynghori ar lunio polisïau a dal y Cabinet (a elwir hefyd yn yr Weithrediaeth) i gyfrif fel “ffrind beirniadol”.

     

    Am ragor o wybodaeth am sut mae’r berthynas rhwng y Cabinet a’r Pwyllgorau Craffu yn gweithio, gallwch weld Protocol Rolau ac Atebolrwydd Craffu a’r Cabinet y Cyngor.

     

 

Pwyllgorau Craffu

Mae’r Pwyllgorau Craffu ym Mro Morgannwg fel a ganlyn:  

  • Dechrau'n Dda

    Yn gweithio i roi cychwyn da i bawb mewn bywyd. Yn cynnwys:

     

     - Ysgolion

     - Gwella Ysgolion

     - Addysg a Hyfforddiant Ôl-16

     - Sgiliau 

     - Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

     - Gwasanaeth Ieuenctid

     - Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg

     - Cymraeg (polisi allanol)

     - Chwarae

     

    Gweld manylion pellach am y cyfarfodydd gan gynnwys agendâu a chofnodion

  •  Byw'n Dda

     Yn edrych ar bynciau sy’n cefnogi ac yn amddiffyn y rhai sy’n dibynnu ar y Cyngor. Yn cynnwys: 

     

     

      - Gwasabaethau i Oedolion

      - Gwasanaethau i Blant

      - Llyfrgelloedd, Celfyddydau a Diwylliant

      - Hamdden a Chwaraeon

      - Dysgu Cymunedol i Oedolion

      - Diogelwch Cymunedol

      - Digartrefedd

      - Diogelu'r Cyhoedd - Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir

      - Cydraddoldeb (polisi allanol)

     

    Gweld manylion pellach am y cyfarfodydd gan gynnwys agendâu a chofnodion

  •  Lle

     Yn canolbwyntio ar greu llefydd gwych i fyw a diogelu’r amgylchedd. Yn cynnwys:

     

      - Datblygu Economaidd ac Adfywio

      - Twristiaeth

      - Cefn Gwlad a Pharciau

      - Rheoli Gwastraff a Glanhau

      - Priffyrdd a Pheirianneg

      - Cynllunio

      - Trafnidiaeth

      - Argyfwng Hinsawdd a Natur

      - Creu Lleoedd

      - Tai'r Sector Cyoeddus a Phreifat

     

    Gweld manylion pellach am y cyfarfodydd gan gynnwys agendâu a chofnodion

  •  Adnoddau

     Yn gwirio sut mae’r Cyngor yn cael ei redeg a sut mae arian yn cael ei wario. Yn cynnwys:

     

      - Polisi a Pherfformiad Corfforaethol 

      - Cyfathrebu a Chyfranogiad

      - Cysylltiadau a Chwsmeriaid

      - Cyllid

      - Caffael

      - Digidol

      - Adnoddau Dynol

      - Cydraddoldeb (polisi mewnol)

      - Yr Iaith Gymraeg (polisi mewnol)

     

    Gweld manylion pellach am y cyfarfodydd gan gynnwys agendâu a chofnodion

  •  Berfformiad ar y Cyd

     Yn dod â’r pedwar Pwyllgor Craffu ynghyd i adolygu perfformiad a chyllid y Cyngor.

     

    Gweld manylion pellach am y cyfarfodydd gan gynnwys agendâu a chofnodion

Sut gall trigolion gymryd rhan mewn Cyfarfodydd Craffu

Mae nifer o ffyrdd o gymryd rhan mewn cyfarfodydd Craffu, gan gynnwys:

 

Cofrestru i Siarad mewn Pwyllgor Craffu am eitem ar yr agenda

 

Anfon sylwadau ysgrifenedig ymlaen llaw i’r cyfarfod at  democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

Os credwch y dylai Pwyllgorau Craffu ystyried pwnc gwahanol nad yw wedi’i gynnwys ar eu hagenda, cyflwynwch:

Ffurflen Awgrymu Pwnc Craffu

 

Os ydych yn cymryd rhan mewn cyfarfod Craffu, mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich recordio yn weledol ac yn glywedol gyda’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Am ragor o wybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor.

 

Rhaglen Gwaith Ymlaen y Pwyllgor

Mae rhaglen gwaith ymlaen pwyllgor yn amserlen sy’n nodi’r pynciau, yr adroddiadau a’r materion y mae pwyllgor craffu yn bwriadu eu hystyried dros y misoedd nesaf er mwyn cefnogi goruchwyliaeth ac atebolrwydd effeithiol.

 

Argymhellion Craffu

Mae gwneud argymhellion i helpu gwella gwaith y Cyngor yn rhan allweddol o Graffu. Gweler isod yr offeryn rhyngweithiol sy’n darparu trosolwg o’r argymhellion a wnaed yn ystod y flwyddyn Fwrdeistrefol a statws yr argymhellion hyn:

 

 


 

Eitemau Gwybodaeth Craffu

Mae rhai eitemau nad ydynt yn cael eu hystyried yn ffurfiol mewn cyfarfodydd Pwyllgorau Craffu, ond yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau er gwybodaeth ac i’w galluogi i ystyried a hoffent gynnal craffu pellach. I weld yr adroddiadau, dewiswch y Pwyllgor Craffu perthnasol isod: