Cost of Living Support Icon

Effeithlonrwydd Ynni Cartrefi 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni gwael mewn cartrefi. 

 

Picture2
Bydd yn anoddach cadw cartrefi nad ydynt yn ynni-effeithlon (gyda Sgôr Perfformiad Ynni o dan C) yn gynnes, a bydd y cartrefi hynny’n cael biliau ynni uwch ac yn pwmpio mwy o CO2 i'r atmosffer o'u cymharu â'u cymdogion mwy effeithlon. Gall gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref drwy insiwleiddio a thechnolegau ynni adnewyddadwy gynnig amrywiaeth o fuddion i chi yn ogystal ag i’n planed.

 Buddion i chi: 

  • Lleihau swm y gwres a gollir yn sylweddol
  • Lleihau eich biliau ynni
  • Eich cadw’n gynnes yn y gaeaf, ac yn oer yn yr haf
  • Lleihau eich ôl troed carbon
  • Gwella Sgôr Perfformiad Ynni (Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY)) eich eiddo, gan ei wneud yn fwy deniadol i brynwyr
  • Gwneud eich cartref yn fwy cyfforddus ac atal lleithder
Picture3

 

Ffyrdd syml o ddefnyddio llai o ynni ac arbed ar eich biliau ynni: 

Picture6
  • Trowch eich thermostat i lawr gan 1°c 
  • Diffoddwch y goleuadau yn yr ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio a defnyddiwch fylbiau arbed ynni
  • Peidiwch â gadael pethau yn y modd segur
  • Peidiwch â gorlenwi’r tegell – berwch y dŵr sydd ei angen arnoch
  • Defnyddiwch beiriannau golchi a sychu i gapasiti llawn oni bai bod gennych osodiadau hanner llwyth
  • Peidiwch â gadael tapiau'n diferu, yn enwedig tapiau dŵr poeth
  • Caewch ddrysau i gadw gwres mewn ystafelloedd

 I gael mwy o awgrymiadau arbed ynni, ewch i’r Ymgyrch Help For Households 

 

Mae cadw’n gynnes yn hollbwysig, yn enwedig i bobl hŷn yn y cartref. Mae Age UK yn argymell gwisgo haenau a chadw'n actif gartref, ac mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datblygu Cynllun Mannau Cynnes gyda rhwydwaith o fannau cymunedol cynnes a chroesawgar yn dod â phobl ynghyd y gaeaf hwn heb unrhyw gost.  Yn fwy na hynny, mae'r Cyngor hefyd yn cynnig gwybodaeth a chyngor defnyddiol ynghylch Cymorth Costau Byw 

 

Mesurau y gallwch eu rhoi ar waith i'ch helpu i aros yn gynnes gartref ac i leihau eich biliau ynni:

 

  • Insiwleiddiwch eich to, eich llawr a’ch waliau
  • Rhowch ddeunydd atal drafftiau ar ddrysau a ffenestri
  • Uwchraddiwch eich system wresogi i foeler ynni-effeithlon neu bwmp gwres
  • Gosodwch wydr dwbl neu driphlyg
  • Defnyddiwch ffynonellau ynni adnewyddadwy, megis pŵer solar
  • Gwiriwch sgôr TPY eich cartref neu gael prawf TPY i gael argymhellion personol
  • Gofynnwch i'ch darparwr ynni osod mesurydd Deallus i'ch helpu i reoli eich defnydd a'ch costau ynni.
Picture5

  

Prosiect Sero

Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i’r Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd. Mae’n dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030 ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol i gefnogi Prosiect Sero gartref.

 

ST_combo

Solar Together De-ddwyrain Cymru - y broses o brynu paneli solar a batris storio wedi’i hwyluso

Hoffech chi ostwng eich biliau ynni wrth gynhyrchu eich trydan glân eich hun? Mae gosod paneli solar â batris storio yn fuddsoddiad craff, sy’n eich helpu i reoli eich defnydd o ynni wrth leihau eich ôl troed carbon.   

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cyfle i drigolion osod paneli solar o ansawdd uchel am bris cystadleuol. Drwy gynhyrchu eich trydan eich hun, byddwch yn dibynnu llai ar y grid, yn lleihau eich costau ynni ac yn helpu i leihau allyriadau carbon.  

 

Darganfold mwy

 

Cymru Gynnes

Mae Cymru Gynnes yn gweithio gyda gwahanol wasanaethau i sicrhau bod cartrefi'n gynnes ac yn ddiogel.

Gallan nhw roi cyngor am ddim i chi ynghylch:

  • ynni,
  • biliau dŵr,
  • gwres,
  • cofrestru â’r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth,
  • a mesurau diogelwch yn eich cartref.

Gallwch gael cyngor drwy lenwi ffurflen atgyfeirio neu drwy ffonio. 

  • 080 0091 1786

 

 

Warm Wales

 



Nest logo

Cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru

Cymorth i wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon!

Mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru ynllefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw. Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i’ch helpu ileihau eich biliau ynni, cynyddu eich incwm, a lleihau eich ôl troed carbon.Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim felmesurau inswleiddio gwres cartref am ddim.

 

Ffoniwch rhadffôn 0808 808 2244, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-6pm neu ewch i llyw.cymru/nyth i gael gwybod mwy.

  

   

Cynllun ECO4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni gan gynnwys ECO4 Flex)

ECO4 yw'r cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni diweddaraf a weinyddir gan OFGEM. Nod cyllid RhCY yw helpu'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac sy'n agored i'r risg o fyw mewn cartref oer, ac y mae eu tŷ yn aneffeithlon o ran ynni.  Mae cyllid RhCY yn talu am osod mesurau effeithlonrwydd ynni fel gwelliannau gwresogi ac inswleiddio, a thrwy hynny yn helpu i leihau cost gwresogi'r cartref a chreu arbedion carbon sy'n dda i'r amgylchedd hefyd.  

 

Darganfold mwy