Cost of Living Support Icon

 

Cyllid Busnes

Gall cyllid i fusnesau a grwpiau cymunedol ddod o amrywiaeth eang o ffynonellau. Defnyddiwch y dolenni a’r adnoddau ar y dudalen hon i ddod o hyd i’r cymorth ariannol priodol ar gyfer eich menter.   

 

Gall cyllid ar gyfer datblygu busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol eich helpu i roi eich syniad ar waith, helpu eich sefydliad i dyfu neu alluogi rhaglenni a pholisïau i gael eu gweithredu ar gyfer datblygiad cymunedol a chynaliadwyedd.   Er nad yw Bro Morgannwg yn cefnogi nac yn argymell unrhyw ffynhonnell gyllid benodol, rydym wedi casglu dolenni i nifer o'r ffynonellau cyllid mwy cyffredin i'ch helpu.  

Funding (Welsh)

 

Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro

Mae Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro yn fenter adfywio a datblygu economaidd a arweinir gan Gyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth ag amryw o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.  


Diben y fwrsariaeth yw hyrwyddo amodau a fydd yn helpu entrepreneuriaid i weithredu eu syniad busnes.  Gall hyn gynnwys rhoi cyngor a chymorth arbenigol i ddatblygu syniad busnes, darparu'r offer neu'r adnoddau angenrheidiol i ddechrau busnes a helpu gyda chostau lleoliad busnes. 


Am fwy o wybodaeth.

 

Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin bellach wedi'i dyrannu'n llawn, ac mae ceisiadau bellach ar gau. I gael rhagor o fanylion am sut y dyrannwyd y gronfa rhwng 2022-2025, archwiliwch y ddogfen astudiaeth achos hon. 

Er nad yw Bro Morgannwg yn cymeradwyo nac yn argymell unrhyw ffynhonnell ariannu benodol, rydym wedi casglu dolenni at sawl un o'r adnoddau ariannu mwy cyffredin i’ch helpu i chwilio

 

  • Canfyddwr Cyllid
    Defnyddiwch Ganfyddwr Cyllid Busnes Cymru i ddod o hyd i opsiynau cyllid sy’n berthnasol i’ch busnes.
  • Dod o hyd i Grant  
    Mae dod o hyd i grant yn wasanaeth sy'n eich galluogi i chwilio drwy grantiau'r llywodraeth.
  • Banc Datblygu Cymru 
    Gan helpu busnesau i gael y benthyciadau a'r buddsoddiadau y mae eu hangen arnynt i gychwyn, cryfhau a thyfu. 
  • Cynlluniau Cyllid Gwledig 
    Cyllid i ddatblygu projectau cymunedol, eich busnes neu fentrau eraill yn ardaloedd gwledig y Fro.  
  • Cyllid ar gyfer y Celfyddydau 
    Grantiau i gefnogi sefydliadau celfyddydol sydd wedi’u lleoli ac sy’n gweithio’n bennaf yng Nghymru.   Benthyciadau Dechrau Busnes 
  • Bancio Robert Owen  
     Cyllid a benthyciadau i fusnesau a mentrau cymunedol. 
  • Grant Cyfleusterau Cymunedol 
    Grantiau cyfalaf i wella cyfleusterau cymunedol sy’n atal neu sy’n mynd i’r afael â thlodi a’i effeithiau.
  • Purple Shoots 
    Dysgwch fwy am fenthyciadau busnesau bach i dalu am gostau dechrau a gwasanaethau mentora. 

 

 

Tourism focussed: 

  • Cronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru (WTIF)
    Mae'r gronfa  hon yn dod â chyllid masnachol a grant at ei gilydd mewn un pecyn cyfunol o gymorth ariannol i ddarparu buddsoddiad cyfalaf i'r sector.

     

  • Cynllun grant Digwyddiadau Bro Morgannwg 

    Cyllid grant i gefnogi digwyddiadau ym Mro Morgannwg. 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau a chymorth cymunedol, ewch i: Cymunedau Creadigol

 

Nid yw’r dolenni cyllid a ddarperir yma yn gynhwysol, fe’u darperir er cyfeiriad yn unig ac nid ydym yn ceisio cefnogi unrhyw ddarparwyr penodol.   Mae nifer o ffynonellau eraill sy’n bodoli sy’n cynrychioli dewis da ar gyfer eich menter, er enghraifft, benthyciadau gan fanciau a chyllido torfol.  

Cysylltu â Ni 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar ôl ymweld â’r safle, ffoniwch neu e-bostiwch y tîm datblygu economaidd am gymorth.