Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod                   PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

 

Dyddiad ac amser y Cyfarfod        DYDD LLUN, 15 RHAGFYR, 2025 AM 6.00 PM

 

Lleoliad                                        CYFARFOD HYBRID

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.       Cofnodion y Cyfarfod Eithriadol a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2025.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeirnod –

4.       Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2025/26 – Cabinet: 20fed Tachwedd, 2025.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol –

5.       Llety Dros Dro: Argyfwng Hirdymor?

[Gweld Cofnod]

6.       Risg Gorfforaethol: Diweddariad Chwarter 2.

[Gweld Cofnod]

7.       Cynnydd Chwarter 2 2025/26 yn Erbyn Argymhellion Rheoleiddio Allanol

[Gweld Cofnod]

8.       Cwblhau'r Datganiad Cyfrifon Blynyddol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru - Ymatebion gan Archwilio Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru.

[Gweld Cofnod]

9.       Olrhain Penderfyniadau a Chamau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol –

10.     Archwilio Cymru – Nodyn Briffio Menter Twyll Genedlaethol.

[Gweld Cofnod]

11.     Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol.

[Gweld Cofnod]

12.     Adroddiad Monitro Argymhellion.

[Gweld Cofnod]

13.     Rhaglen Waith Ymlaen.

[Gweld Cofnod]

 

14.     Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

MAE’N BOSIBL Y CAIFF Y CYHOEDD A’R WASG EU HEITHRIO O’R CYFARFOD TRA BOD YR EITEM(AU) YN CAEL EU HYSTYRIED YN UNOL AG ADRAN 100a(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

15.      Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

9 Rhagfyr, 2025

 

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985

Archwilio papurau cefndirol:

Yn yr achos cyntaf, dylid cyfeirio ymholiadau at 

G. Davies, Ffôn: 01446 709249

e-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

At Aelodau’r Pwyllgor Archwilio

Cadeirydd: G. Chapman (Aelod Lleyg);

Is-gadeirydd: N. Ireland (Aelod Lleyg);

Cynghorwyr: G. Ball, B. Dodd, E. Goodjohn, M.J. Hooper, J. Protheroe a N.J. Wood; a M. Evans (Aelod Lleyg).

 

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx