Cost of Living Support Icon

 

 

NEW CIG LOGO 2026

Grant Gwella Masnachol

Bydd y Grant Gwella Masnachol yn darparu cymorth ar gyfer y gwelliannau a'r gwaith cynnal a chadw i wella gwedd flaen eiddo manwerthu ym Mro Morgannwg a gwella ansawdd yr ardal fasnachu fewnol gan gynnwys hygyrchedd.

Bydd disgwyl i'r gwelliannau gyfrannu at effaith gadarnhaol ar y strydlun, gan greu amgylchedd mwy deniadol, bywiog, a mwy diogel a fydd yn cynyddu gweithgarwch manwerthu, yn hybu nifer yr ymwelwyr ac yn ysgogi buddsoddiad pellach gan y sector preifat. 


Bydd y cyfnod ymgeisio rhwng 3 Mehefin a 5 Gorffennaf 2026 NEU nes bod y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.  

 

Pwy sy’n gymwys: 

Busnesau a pherchnogion eiddo masnachol a manwerthu ledled Bro Morgannwg yng nghanol trefi, ardaloedd siopa eraill ac eiddo gwag.


Gall y grant gyfrannu 70% tuag at gost gwaith cymwys hyd at uschafswm grant o £5,000.

 

Beth all ei ariannu:  

  • Paentio'r wedd flaen (rhaid cytuno ar y cynllun lliw ymlaen llaw gyda'r Cyngor)

  • Trwsio, ailbwyntio a glanhau gwaith cerrig neu rendro

  • Gwaith atgyweirio ar wydr, drysau, blaen siopau

  • Trwsio neu adfer nwyddau dŵr glaw

  • Atgyweirio nodweddion gwreiddiol

  • Trwsio arwyddion neu osod arwyddion (heb eu goleuo)

  • Powdr-orchuddio caeadau rholio presennol

  • Addasiadau siop ar raddfa fach (mewnol), a

  • Hygyrchedd gwell (allanol a mewnol)

 

Beth na ellir ei ariannu:  

  • Gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud neu wedi’i gwblhau

  • Ffioedd am gydsyniad statudol, e.e. cynllunio

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i'r Grant Gwella Masnachol, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd cyn llenwi'r ffurflen gais (rydym ar gau i geisiadau).

 

 

 

 Cwestiynau Cyffredin:  

  • Beth a ystyrir yn arian cyfatebol?  Sut ydw i'n rhoi tystiolaeth o hyn?
    Mae'n rhaid i arian cyfatebol fod yn gyllid sydd eisoes wedi'i sicrhau ac ni all fod yn dybiannol.   Gallai hyn gynnwys arian parod o gronfeydd wrth gefn busnes, benthyciad banc, cynllun cyllid grant arall. Gallai tystiolaeth fod ar ffurf llythyr dyfarnu gan gynllun cyllid grant neu fanc neu gyfriflen banc gyda chronfeydd priodol wedi’u clirio. 
  • Faint o arian cyfetabol sydd ei angen arnaf?  

    Mae angen i chi gael cyfanswm o 30% o gostau'ch prosiect fel arian cyfatebol: 

     
    Enghraifft 1: Cyfanswm costau'r prosiect yw £5,000 (70% yw £3,500/30% yw £1,500)

     

    Dyfarniad grant: £3,500

     

    Arian cyfatebol: £1,500 

     

    Enghraifft 2: Cyfanswm cost y prosiect yw £7,150 (70% yw £5,005/30% yw £2,145)

    Dyfarniad grant: £5,000 (uchafswm)

    Arian cyfatebol: £2,150

  • Pryd mae'r grant yn cau ar gyfer ceisiadau? 
    Caiff y grant ei ddyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.   Bydd y grant yn cau pan fydd yr arian wedi'i ddyrannu'n llawn neu ar 5 Gorffennaf 2026, pa un bynnag a ddaw gyntaf.  Rhaid i'r holl arian grant a ddyfarnir gael ei wario'n llawn erbyn 20 Medi 2026. 
  • Rwyf wedi cyflwyno cais, pryd alla i ddechrau fy mhrosiect? 
    Ni allwch ddechrau ar eich prosiect nes ei fod wedi'i gymeradwyo a’ch bod wedi derbyn llythyr cyllido gennym ni.
  • A allaf gyflwyno mwy nag un cais? 
     Rydym yn derbyn un cais fesul rownd ariannu.
  • Pa mor fuan y byddaf yn clywed a yw fy nghais yn llwyddiannus? 
     Nod ein swyddogion grant yw adolygu ceisiadau o fewn pythefnos i'w derbyn. Os ystyrir bod eich cais yn gymwys a'ch bod wedi darparu'r holl fanylion perthnasol bydd yn cael ei drosglwyddo i'n Panel i'w gymeradwyo. Os oes angen mwy o fanylion, bydd swyddog grant yn cysylltu â chi.
  • Faint o ddyfynbrisiau sydd angen i fi eu cael? 
    Bydd faint o ddyfynbrisiau sydd eu hangen yn dibynnu ar gost eich prosiect ac a yw'r gwaith yn cael ei wneud gan un contractwr.   Gweler y tabl ar dudalen 3 y nodiadau canllaw.

     

  • Beth os na all y contractwr gwblhau o fewn yr amserlen? 

    Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl i roi gwybod i ni am unrhyw anawsterau neu bryderon, byddwn yn ceisio gweithio gyda chi i'ch helpu i gwblhau eich prosiect. 

  • Ar ôl cwblhau fy mhrosiect, sut ydw i'n hawlio fy nyfarniad grant?  
    Bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen hawlio a ddarperir a'i dychwelyd atom gyda chopi o'r holl anfonebau perthnasol a thystiolaeth o’r taliadau (e.e. datganiad banc).  Bydd angen i chi hefyd ddarparu ffotograff o'ch prosiect wedi'i gwblhau.

  • Beth sy'n digwydd os yw'r dyfynbrisiau gwreiddiol yn uwch neu'n is pan ddaw’r anfonebau? 
    Byddem yn eich annog i gysylltu cyn gynted â phosibl os bydd unrhyw beth yn newid.   Os yw'r anfoneb yn is, bydd eich grant yn cael ei leihau yn unol â hynny ond os yw'ch anfoneb yn uwch a’ch bod heb dderbyn uchafswm y grant efallai y byddwn yn gallu helpu.  Os ydych wedi derbyn y grant llawn, bydd angen i unrhyw gostau ychwanegol gael eu talu gennych chi





 

  • Pryd byddaf i’n derbyn fy nhaliad grant?
    Bydd y taliad grant fel arfer yn cael ei wneud o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad derbyn a chymeradwyo eich hawliad.

     

 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm Datblygu Economaidd:

 

  

  

 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.

 

Hysbysiad Preifatrwydd y Wefan