Cost of Living Support Icon

 

Datganiad ar y cyd gan Gyngor Bro Morgannwg a Chymdeithas Genedlaethol y Penaethiaid

Mae cynrychiolwyr Cyngor Bro Morgannwg a Chymdeithas Genedlaethol y Penaethiaid (NAHT) wedi cyfarfod i drafod pryderon parhaus ynghylch cyhoeddi Hysbysiadau Rhybudd Ffurfiol i saith ysgol yn y Fro.

 

  • Dydd Gwener, 23 Mis Ionawr 2026

    Bro Morgannwg



Ar y sail bod cynnydd da wedi cael ei wneud gan nifer o ysgolion ar eu cynlluniau adfer diffyg, mae'r Cyngor wedi cadarnhau y bydd yn tynnu'r hysbysiadau rhybuddio yn erbyn yr ysgolion hyn yn ôl. 

 

Bydd protocol ar y cyd yn cael ei gytuno rhwng yr NAHT a'r Awdurdod Lleol i sicrhau, os bydd yr angen yn codi yn y dyfodol, fod ymrwymiad gan y ddwy ochr i weithio mewn partneriaeth yn yr hyn sy'n amgylchedd ariannol heriol.

 

Yn y cyfamser, bydd ymgysylltiad rheolaidd ag ysgolion yn parhau i gynnal y cynnydd a wnaed ac i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon parhaus. 

 

Bydd y Cyngor a'r NAHT hefyd yn cwrdd yn rheolaidd i fonitro cynnydd a thrafod unrhyw bryderon a allai godi yn y dyfodol.