Sefydliad Iechyd y Byd yn Amlygu Sioe Radio Fforwm 50+ Cyngor y Fro fel Menter Arweiniol sy'n Gyfeillgar i Oed
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi erthygl astudiaeth achos sy'n cydnabod sioe radio misol Fforwm 50+ y Fro ar Bro Radio fel arfer eithriadol sy'n gyfeillgar i oed fel y sioe radio fforwm 50+ gyntaf yng Nghymru.
Mae'r rhaglen yn cael ei dathlu fel enghraifft neilltuol o ymgysylltu cymunedol a chynhwysiant i oedolion hŷn, gan ddangos sut y gall partneriaeth leol a chyfathrebu arloesol gryfhau cysylltiadau cymunedol a chefnogi heneiddio egnïol.
Cafodd y sioe radio ei chynnal ar Bro Radio, a lansiwyd yn 2023 gan Fforwm Strategaeth 50+ y Fro, gyda chefnogaeth Rhaglen Bro Cyfeillgar i Oed Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg.
Mae'r sioe yn darparu llwyfan pwrpasol i drigolion hŷn rannu eu barn, clywed gan arweinwyr lleol - gan gynnwys Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru - a dysgu am ddigwyddiadau cymunedol, a'r cyfan tra bod gwrandawyr yn mwynhau cymysgedd o draciau clasurol sydd wedi'i churadu'n ofalus, gan ddod â gwybodaeth, adloniant a chysylltiad ynghyd.
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae'r gydnabyddiaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd yn anrhydedd aruthrol ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad ein cymuned i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi.
“Mae'r sioe radio hon yn dangos sut y gall ymgysylltu ystyrlon, creadigrwydd a phartneriaeth gyfoethogi bywydau a gwneud y Fro yn lle hyd yn oed yn fwy cynhwysol i dyfu'n hŷn.”
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies: “Mae sioe radio Fforwm 50+ y Fro yn ffordd arloesol iawn o estyn allan at bobl hŷn ac ymgysylltu â nhw, yn enwedig y rhai nad ydynt ar-lein, ac rwy'n falch iawn bod hyn wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd.
“Mae mynediad at wybodaeth, yn ogystal â chyfleoedd i sicrhau bod ein lleisiau yn cael eu clywed yn hollbwysig i'n cefnogi i heneiddio yn dda, a gobeithiaf y gellir cyflwyno'r model hwn yn ehangach mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.”
Ers ei lansio, mae'r fenter wedi tyfu y tu hwnt i'w chyfnod peilot gwreiddiol ac yn parhau i ffynnu fel rhan werthfawr o raglen waith y Fforwm a strategaeth barhaus sy'n gyfeillgar i oedran y Fro.
Dywedodd Swyddog Cyfeillgar i Oed y Fro, Sian Clemett-Davies: “Mae rhaglen radio'r Fforwm yn dangos sut mae Bro Morgannwg yn rhoi'r mudiad Cymunedau Cyfeillgar i Oed ar waith trwy werthfawrogi ac ymhelaethu lleisiau pobl 50+ oed. Mae'n sicrhau bod gwybodaeth hanfodol yn cyrraedd preswylwyr hŷn sy’n sownd yn y tŷ neu heb mynediad at fywyd ar-lein ac mae'n glod i wirfoddolwyr y Fforwm sydd wedi datblygu sgiliau newydd i greu adnodd cymunedol gwerthfawr.
“Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio gan ac ar gyfer pobl hŷn, gydag aelodau'r fforwm yn cymryd rhan weithredol wrth ddewis pynciau, cynnal cyfweliadau a chydgynhyrchu cynnwys. Mae ei ddull cynhwysol yn helpu i gyrraedd gwrandawyr a allai fod wedi'u hynysu'n gymdeithasol, gan ddod â gwybodaeth a chysylltiad pwysig yn uniongyrchol i gartrefi ledled y Fro.”
Mae'r rhaglen yn fyw ar ail ddydd Mawrth pob mis am 7yp (98.1 — 106.1FM — DAB — Ar-lein) a gall pobl hefyd wrando yn ôl drwy'r nodwedd 'Gwrando Eto' ar wefan Bro Radio yn ei Adran 'Rhaglennu Misol' - Gwrando Eto - Bro Radio
Ynglŷn â Fforwm Strategaeth 50+ Cyfeillgar i Oed y Fro
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg, gan gynnwys y Cyngor a'i bartneriaid, wedi ymrwymo i greu cymuned sy'n gyfeillgar i oed lle gall pobl o bob oed fyw'n dda ac oedrannu gydag urddas a chyfle.
Mae Fforwm Strategaeth 50+ y Fro yn dod â thrigolion 50 oed a throsodd ynghyd i ddylanwadu ar bolisiau lleol, cefnogi lles, a hyrwyddo lleisiau oedolion hŷn yn y Fro.