Ardaloedd lle Gwaherddir Cŵn
Er mwyn helpu i gadw mannau cyhoeddus yn lân, yn ddiogel ac yn bleserus i bawb, mae gan rai ardaloedd waharddiadau cŵn ar waith. Mae hyn yn golygu na chaniateir cŵn mewn lleoliadau penodol, fel ardaloedd chwarae plant, tiroedd ysgol, a chaeau chwaraeon wedi'u marcio.
-
- Map Ardaloedd lle Gwaherddir Cŵn
Gwaharddiad Cŵn ar Draethau
Rhwng 1 Mai a 30 Medi mae cŵn wedi'u gwahardd o nifer o draethau ym Mro Morgannwg.
I wirio pa draethau y mae'r gwaharddiad yn berthnasol iddynt, a pha draethau sy'n parhau i fod yn gyfeillgar i gŵn trwy gydol yr Haf, gweler:
Gwahardd Cŵn ar Draethau
Nodwch fod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n cwmpasu Aberogwr yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac yn amodol ar ymgynghori ymhellach â'r gymuned leol, felly ni fydd gwaharddiad traeth yn cael ei gymhwyso i Aberogwr yn ystod haf 2025.