Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod                     PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

 

Dyddiad ac amser y Cyfarfod         DYDD LLUN, 23 MEHEFIN, 2025 AM 6.00 PM

 

Lleoliad                                         CYFARFOD HYBRID

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Penodi Cadeirydd.

(Sylwer: Bod paragraff 9.2.3 o Gyfansoddiad Cyngor Bro Morgannwg yn datgan bod Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i’w benodi gan y Pwyllgor a rhaid iddo fod yn Aelod Lleyg.)

 

2.         Penodi Is-Gadeirydd.

(Sylwer: Bod paragraff 9.2.4 o Gyfansoddiad Cyngor Bro Morgannwg yn datgan bod Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei benodi ganddo ac ni chaiff fod yn aelod o’r Cabinet nac yn gynorthwyydd i’r Cabinet.)

 

3.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

4.         Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2025.

 

5.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

Cyfeiriad –

6.        Adolygiad o Bolisi Pryderon a Chwynion Corfforaethol – Cabinet: 5 Mehefin, 2025.

 

Adroddiadau Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol –

7.        Risg Gorfforaethol: Diweddariad Chwarter 4.

8.        Archwiliad Gosod Amcanion Llesiant Cyngor Bro Morganwg.

9.        Crynodeb Archwiliad Blynyddol Cyngor Bro Morganwg 2024.

10.      Diweddariad Rhaglen Waith Archwilio Cymru Chwarter 4 2024/5 – Cyngor Bro Morganwg.

11.      Archwilio Cymru: Cynllun Archwilio Cyngor Bro Morganwg 2025.

 

Adroddiadau Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol –

12.      Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2024/25.

13.      Siarter y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol 2025-26.

14.      Strategaeth Flynyddol a Chynllun yn Seiliedig ar Risg Archwilio Mewnol 2025-26.

15.      Rhaglen Waith Ymlaen 2025/26.

 

16.      Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

MAE’N BOSIBL Y CAIFF Y CYHOEDD A’R WASG EU HEITHRIO O’R CYFARFOD TRA BOD YR EITEM(AU) YN CAEL EU HYSTYRIED YN UNOL AG ADRAN 100a(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

17.       Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

17 Mehefin, 2025

 

 

Mae fersiwn o’r Agenda hwn hefyd ar gael yn Saesneg

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985

Archwilio papurau cefndirol:

Yn yr achos cyntaf, dylid cyfeirio ymholiadau at 

G. Davies, Ffôn: 01446 709249

e-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

At Aelodau’r Pwyllgor Archwilio

Cadeirydd: I'w benodi yn y cyfarfod;

Is-gadeirydd: I'w benodi yn y cyfarfod;

Cynghorwyr: G. Ball, E. Goodjohn, M.J. Hooper, J. Protheroe a N.J. Wood (ynghyd ag un swydd wag).

 

Aelodau Lleyg: G. Chapman, M. Evans a N. Ireland

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx