Cost of Living Support Icon

MAE’R DDOGFEN HON AR GAEL YN SAESNEG

THIS DOCUMENT IS AVAILABLE IN ENGLISH

 

Hysbysiad o Gyfarfod:

Cyfarfod Blynyddol Cyngor Bro Morgannwg

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod:

Dydd Mercher, 13 Mai 2026 – 6.00pm

Math / Lleoliad:

Cyfarfod Hybrid / Siambr y Cyngor

 

** Bydd y Maer sy’n ymddeol yn cadeirio nes bod y Maer newydd yn cael

ei ethol yn ffurfiol. Cyflwynir Trefn gyflawn y Digwyddiadau yn ystod

y cyfarfod.   Amgaeir Trefn y Trafodion llawn.

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldebau.

 

2.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.

 

3.         Ethol Maer ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod yn unol â darpariaethau Adrannau 22 a 23 Deddf Llywodraeth Leol 1972. **

 

4.         Penodi Dirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod yn unol â darpariaeth Adran 24 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

5.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan:

            (i)         y Maer;

            (ii)        yr Arweinydd;

            (iii)       Aelodau'r Cabinet; a

            (iv)       y Prif Weithredwr.

 

Adroddiadau gan y Prif Weithredwr –

 

6.         Trefniadau Gweithredol:

            Aelodaeth y Cabinet a Phortffolios 

            I nodi statws yr Arweinydd a chael gwybod gan yr Arweinydd beth yw enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Ddirprwy Arweinydd ac yn Aelodau’r Cabinet, ynghyd â’u portffolios a, pan fo’n berthnasol, enwebiadau ar gyfer “Llefarwyr”. (D.S. Ceir manylion taliadau arfaethedig Uwch Gyflogau yn yr adroddiad hefyd.)

[Gweld Atodiad A Diwygiedig]

 

7.         Trefniadau Anweithredol –

            Penodi Pwyllgorau Craffu ynghyd â’u telerau a phenodi eu haelodaeth ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod  (Gweld Atodiad A):

            (a)       Pwyllgor Craffu Dechrau’n Dda

            (b)       Pwyllgor Craffu Byw'n Dda

            (c)        Pwyllgor Craffu Lle

            (ch)     Pwyllgor Craffu Adnoddau.

[Gweld Gwybodaeth Atodol]  [Gweld Gwybodaeth Atodol Ddiwygiedig]

 

8.         Pwyllgorau Lled-Farnwrol, Pwyllgorau a Chyrff Eraill

Penodi’r cyrff isod ynghyd â’u telerau a phenodi eu haelodaeth am y flwyddyn ddinesig sydd i ddod  (Gweld Atodiad A):

[Gweld Gwybodaeth Atodol]

        

Pwyllgorau Lled-farnwrol flwyddyn dinesig

(a)        Pwyllgor Apeliadau     

(b)        Pwyllgor Adolygu Taliadau Tai Disgresiynol    

(c)        Pwyllgor Ymchwilio   

(ch)      Pwyllgor Cynllunio

(d)        Is-bwyllgor Hawliau Tramwy Cyhoeddus

(dd)      Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd

(e)        Pwyllgor Statudol Trwyddedu

(f)         Pwyllgor Safonau

(ff)        Pwyllgor Penodi Pwyllgor Safonau.

 

Pwyllgorau / Is-bwyllgorau / Panelau

(g)        Penodi Llywodraethwyr ALl – Panel Ymgynghorol.   

(ng)      Pwyllgor Cyswllt Cymunedol

(h)        Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

(i)         Is-bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

(j)         Pwyllgor Ymddeol yn Gynnar / Dileu Swyddi

(l)         Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

(ll)        Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd  

(m)       Pwyllgor Penodi Uwch Reolwyr   

(n)        Panel Penodi Pwyllgor Safonau  

(o)        Pwyllgor yr Ymddiriedolaeth

(p)        Cydbwyllgor Cyswllt y Sector Wirfoddol

(ph)      Ymddiriedolaeth Ystad Deddf Eglwys Cymru.

           

Cyrff Eraill (Yn cynnwys Cyrff ar y Cyd)

(r)        Fforwm Ymgynghorol Cydraddoldebau

(rh)      Grŵp Cynghorol Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

(s)        Cydbwyllgor Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De –

Mae Model Rheolaeth y Consortiwm yn cynnwys Cydbwyllgor symlach, sy’n cynnwys nifer lai o Arweinwyr neu gynrychiolwyr a enwebwyd. Mae pob Awdurdod Lleol cyfansoddol yn penodi un Aelod, ac (yn unol â’r Model Cenedlaethol), dylai hwn fod  yr Arweinydd neu ddirprwy a enwebwyd.  Cynrychiolydd presennol y Cyngor yw’r Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg.  

(t)         Cyd-bwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: Aelodaeth a Phenodi Dirprwyon –

Mae’r Cytundeb Cydweithio yn galluogi bob un o’r tri Awdurdod perthnasol i benodi eilyddion ar gyfer y ddau Aelod a enwyd ganddynt.  Cynrychiolwyr presennol y cyngor  yw’r Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd.  Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth acAdeiladu ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd oedd yr eilyddion ar gyfer yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd yn y drefn honno.

(th)      Y Cwmni Arlwyo Big Fresh (Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol) –  Cynrychiolwyr presennol y Cyngor yw’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a’r Arweinydd Gweithredol a’r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau a fydd yn cynrychioli’r Cyngor fel cyfranddaliwr y cwmni ac a fydd yn cael eu cynghori gan Banel Cynghori Cyfranddalwyr, sy’n cynnwys Swyddogion y Cyngor.

 

9.         Nodi dyddiadau cyfarfodydd cyffredin y Cyngor i’w cynnal yn y flwyddyn ddinesig sydd i ddod –

 

13 Gorffennaf 2026

28 Medi 2026

7 Rhagfyr 2026

8 Mawrth 2027

26 Ebrill 2027.

 

10.      Ethol Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ar gyfer y Pwyllgorau isod ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod:

 

            (a)       Apeliadau

            (b)       Cyswllt Cymunedol

            (c)       Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

            (ch)     Adolygu Taliadau Tai Disgresiynol

            (a)       Ymddeol yn Gynnar / Dileu Swyddi

            (dd)     Grŵp Cynghorol Arfordir Treftadaeth Morgannwg

            (e)       Ymchwilio

            (f)       Cynllunio

            (ff)      Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd

            (g)      Penodi Uwch Reolwyr

            (ng)    Trwyddedu Statudol

            (h)      Ymddiriedolaeth

            (i)       Cydbwyllgor Cyswllt y Sector Wirfoddol

            (l)       Deddf Ystad yr Eglwys yng Nghymru.

 

Gweler yr atodiad sydd ynghlwm sy’n nodi pam nad yw pwyllgorau penodol wedi eu cynnwys yn y rhestr uchod.

 

11.      Rhestr Taliadau’r Aelodau 2026-27.  (Gweld Atodiad A)  [Gweler Atodiad A Diwygiedig]

 

12.      Unrhyw eitemau y mae'r Maer wedi penderfynu eu bod yn frys o dan (Rhan I).

 

RHAN II

GELLIR GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG O’R CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETHAU AR Y MATER(ION) SY’N DILYN, YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

13.      Unrhyw eitemau y mae'r Maer wedi penderfynu eu bod yn frys o dan (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

6 Mai 2026

 

Os oes angen cymorth arnoch i arsylwi'r cyfarfod a/neu gael mynediad at unrhyw eitemau ar yr agenda, gan gynnwys papurau cefndir, neu'r agenda mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch â:

 

James Langridge-Thomas, Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Democrataidd

Ffôn: (01446) 709457

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk