Y Canfas Blynyddol
Ymarfer cadarnhau i gynnal a diweddaru’r Gofrestr Etholiadol yw’r Canfasiad Blynyddol.
Yn rhan o’r Canfasiad Blynyddol mae angen i Adran y Gofrestr Etholiadol gysylltu â phob cyfeiriad preswyl ym Mro Morgannwg i gadarnhau a yw’r wybodaeth am eich cartref ar y Gofrestr Etholiadol yn gyflawn ac yn gywir.
Mae fframwaith cyfreithiol sy’n nodi gofynion statudol y Canfasiad Blynyddol ac fel Awdurdod Lleol mae’n rhaid i ni ofyn am y wybodaeth hon. Trefnir a chynhelir y broses Canfasiad gan y Cyngor, ond caiff y Cyngor ei fonitro’n agos gan y Comisiwn Etholiadol.
Bydd eich llythyr Cyfathrebu Canfasiad yn cael ei bostio ar ddydd Gwener 4 Gorffennaf 2025
a'r dyddiad cau i ymateb yw Dydd Gwener 1 Awst 2025 .
PEIDIWCH ag ymateb i ffurflen WERDD oni bai bod eich gwybodaeth yn anghywir neu os oes angen ei diweddaru.
Fodd bynnag oes cewch ffurflen BINC mae’n RHAID i chi ymateb yn brydlon.
Os nad ydych wedi ymateb ar ôl cael y llythyr A4 Canfasiad cychwynnol PINC erbyn
18 Gorffennaf 2025, efallai y byddwch yn cael e-bost atgoffa yn gofyn am ymateb prydlon i'r ffurflen.
Ond dim ond os oes gennym eich cyfeiriad e-bost y byddwch yn cael e-ohebiaeth. Os ydych chi'n derbyn e-gyfathrebu Canfasiad ac eisiau optio allan, rhowch wybod i ni.
Ar ôl Dydd Llun 8 Medi 2025, caiff llythyr atgoffa PINC yna’i ddosbarthu i unrhyw un sydd dal heb ymateb. Gallai unrhyw un sydd wedi derbyn ffurflen atgoffa BINC ac nad yw’n ymateb erbyn
Dydd Llun 6 Hydref 2025 gael galwad ffôn os oes gennym rif cyswllt ar gyfer unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru yn eich eiddo.
Byddem yn gwerthfawrogi ymateb prydlon yn ystod y broses hon.
Darllenwch y ffurflen yn ofalus a sicrhewch fod pob person dros 14 oed sy'n byw gyda chi wedi'i restru ar y ffurflen, os oes gwybodaeth ar goll neu os oes angen ei diweddaru, rhowch wybod i ni.
Sylwer: Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i'ch Ffurflen Gohebiaeth Canfasiad cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw newidiadau i'w gwneud.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ymateb, bydd yn cael ei wirio gan y Swyddfa Cofrestru Etholiadol.
Os nodwn unrhyw addasiadau, ychwanegiadau neu bod unrhyw beth i’w ddileu, caiff y rhain eu diweddaru a’u prosesu. Bydd y Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn ysgrifennu atoch os oes angen gweithredu ymhellach.
Os ydych wedi rhoi gwybod nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau, yna bydd hyn hefyd yn cael ei gadarnhau ar y Gofrestr Etholiadol.
Os ydych wedi rhoi enw person i ni nad yw wedi'i gofrestru ar y Gofrestr Etholiadol ar hyn o bryd, yna byddwn yn anfon ffurflen gais Gwahoddiad i Gofrestru iddynt yn y post. Gallant hefyd gwblhau
Ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru ar-lein.
Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Etholiadol