Asesiad Anghenion Gofalwyr
Os na allwn ddiwallu eich anghenion drwy wybodaeth, cyngor a chymorth yn unig, gofynnwch am asesiad anghenion gofalwyr.
Bydd Asesiad Anghenion Gofalwyr yn edrych ar ba gymorth sydd ei angen arnoch fel gofalwr di-dâl, p'un a ydych yn barod neu'n gallu parhau i ofalu, yr hyn rydych am ei gyflawni mewn bywyd ac a ydych yn gymwys i gael help gan y gwasanaethau cymdeithasol.
Nid yw Asesiad Anghenion Gofalwyr yn gwirio i weld sut neu pam rydych yn gofalu.
Mae darganfod beth yw anghenion person yn dechrau gyda sgwrs. Yn ystod y sgwrs hon, byddwn yn gofyn beth sy'n bwysig i chi.
Byddwn hefyd yn gofyn i chi am y cymorth rydych chi'n ei gael eisoes, a byddwn yn siarad am ble y gallwch gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae'n ystyried cryfderau personol a’r cymorth sydd ar gael gan aelodau o'r teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned.
Bydd Asesiad yn caniatáu i chi wneud yr isod:
-
Ystyried eich anghenion eich hun
-
Meddwl am effaith gofalu ar eich llesiant
-
Siarad yn gyfrinachol â rhywun sy’n deall eich sefyllfa
-
Cael clust barod i wrando
-
Ystyried a allwch chi barhau i ddarparu gofal a pha ddewisiadau sydd gennych
-
Trafod y lefel o gefnogaeth rydych chi'n ei ystyried yn bwysig i gyflawni eich swyddogaeth gan gynnal eich iechyd a'ch llesiant eich hun