Cost of Living Support Icon

Swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol (ALl) - Haf 2025

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd Ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer swyddi gwag presennol fel llywodraethwyr ysgol Awdurdod Lleol (ALl).

 

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth y rhai yr hoffent gael eu hystyried ar gyfer y swyddi presennol i lywodraethwyr ysgol yr Awdurdod Lleol (ALl).  Bydd y Panel Penodi Llywodraethwyr ALl yn ystyried y ceisiadau ar sail y cyfraniad y mae modd i ymgeiswyr ei wneud i ysgol o ran eu sgiliau a'u profiad.

 

 

 Mae'r ffactorau i'w hystyried yn cynnwys: -

 

  • Profiad fel llywodraethwr ysgol effeithiol wedi ei fesur o ran meddu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol gan gynnwys sgiliau sy'n cyd-fynd â heriau'r ysgol unigol.
  • Y cyfraniad a wneir yn ystod cyfnod yn y swydd a phresenoldeb rheolaidd.
  • Awydd gwirioneddol i helpu i wella safonau addysg o fewn yr ysgol mewn partneriaeth â'r pennaeth a gweddill y corff llywodraethu.
  • Gwybodaeth a diddordeb yn y gymuned y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi.
  • Gwybodaeth am faterion addysg fodern.
  • Ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd corff llywodraethu llawn yn rheolaidd yn ogystal â chyfarfodydd unrhyw bwyllgorau o'r corff llywodraethu y maent yn cael eu hethol iddynt.
  • Ymrwymiad i fynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr i ddiweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth i wella eu gallu a'u heffeithiolrwydd fel llywodraethwr.

Mae swyddi ar gael i lywodraethwyr ar hyn o bryd yn yr ysgolion canlynol: 

 

1

Ysgol Gynradd Albert*

15

 Ysgol Gynradd Llabedr y Fro*

2

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru

16

 Ysgol Gyfun Romilly*

3

Ysgol Gynradd Ynys Y Barri*

17

 Ysgol Gynradd South Point* (2)

4

Ysgol Gynradd Tregatwg

18

 Ysgol Gynradd Saint y Brid yr Eglwys yng Nghymru*

5

Ysgol Gynradd Cogan*

19

 St Richard Gwyn

6

Ysgol Gynradd Colcot*

20

 Ysgol Gynradd Sili 

7

Ysgol Gyfun Bont-faen*

21

 Ysgol Gynradd Victoria*

8

Ysgol Gynradd Dinas Powys

22

 Y Bont Faen*

9

Ysgol Gynradd Fairfield(2)

23

 Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

10

 Ysgol Gynradd Gladstone *

24

 Ysgol Dewi Sant*

11

 Ysgol Gynradd Holton 

25

 Ysgol Sant Curig*

12

 Ysgol Gynradd Llandochau (2)

26

 Ysgol Gwaun y Nant

13

 Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr

 (2) 

27

 Ysgol y Deri *(2)

14

 Corff Llywodraethu Ffederal Pencoedtre a Whitmore 

 (4) Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad 

 

 

 

 

Sylwer; ni fydd rhai swyddi gwag yn dechrau nes bod tymor swydd y llywodraethwr ALl sy'n gadael wedi dod i ben, a fydd ryw bryd yn Nhymor yr Hydref - mae'r swyddi gwag hynny wedi'u marcio â *

 

Sylwer na fydd yr Ysgolion Cymraeg yn cynnal eu holl gyfarfodydd yn Gymraeg a phan fydd hynny’n digwydd, bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael.

 

Os ydych yn teimlo y gallech fodloni’r meini prawf uchod ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael eich ystyried ar gyfer swydd llywodraethwr ALl yn un o’r ysgolion uchod, cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr drwy e-bost yn governors@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 709125 (llinell uniongyrchol). 

 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn pecynnau cais wedi'u cwblhau yw Dydd Mawrth 20 Mai 2025