Cost of Living Support Icon
​

Cartrefi Gwledig

Rhai wythnosau, efallai na fydd unrhyw gartrefi ar gael yn yr hysbyseb hon. Gwiriwch yn wythnosol. 
 
Mae Tai Gwledig (Datganiadau o Ddiddordeb yn flaenorol) yn ffurfio rhan o gofrestr tai Homes4U ac yn darparu cyfleoedd i wneud cais am gartrefi fforddiadwy mewn cymunedau gwledig ledled Bro Morgannwg.
 
Caiff eiddo a hysbysebir ar y dudalen hon eu dyrannu drwy Bolisïau Gosod Lleol, sy'n rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd â chysylltiad lleol â'r ardal.
 
I wneud cais am Gartref Gwledig, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Homes4U.
 
Cofrestrwch gyda Homes4U
 

Eiddo sydd ar gael

Pan fydd cartrefi gwledig ar gael, byddant yn cael eu hysbysebu isod.

 
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyfleoedd tai gwledig ar gael. Edrychwch ar yr Hysbyseb Homes4U.
 

Mynegi Diddordeb

 

  • Sut mae'r polisiau yn cael eu datblygu?

    Mae’r polisïau yn cael eu datblygu a’u cytuno mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, y Gymdeithas Dai a’r Cyngor Cymuned sy'n cynrychioli preswylwyr y gymuned lle mae’r eiddo’n cael eu datblygu.

  • Sut mae'r eiddo sydd a Pholisi Gosod Tai'n Lleol yn cael eu dyrannu?
     Mae eiddo sydd â Pholisi Gosod Tai’n Lleol yn cael eu dyrannu mewn ffordd wahanol i geisiadau trwy’r cynllun Homes4U. Mae ymgeiswyr yn y lle cyntaf yn cael eu blaenoriaethu yn unol â'r Polisi Gosod Tai’n Lleol penodol. Mae’r ymgeiswyr sydd â'r cysylltiadau cryfaf â'r gymuned yn cael y flaenoriaeth uchaf. Yna mae’r ymgeiswyr yn y band blaenoriaeth uchaf yn cael eu blaenoriaethu yn unol â Pholisi Homes4u.

     

  •  Sut mae'r Polisiau Gosod Tai'n Lleol yn cael eu hysbysebu?
     Mae eiddo yn cael eu hysbysebu ar hysbyseb wythnosol Homes4u fel Mynegiant o Ddiddordeb. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais drwy'r ddolen bwrpasol tra bod yr hysbyseb ar agor a rhoi manylion penodol mewn perthynas â'r eiddo y mae ganddynt ddiddordeb ynddo.

     

  • Sut mae'r cysylltiad lleol a'r ardal yn cael ei ddilysu?

    Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer eiddo, bydd Galluogydd Tai Gwledig o Gyngor Bro Morgannwg yn cysylltu â chi i wirio cywirdeb y wybodaeth. Ar ôl dilysu hyn, bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i'r Gymdeithas Dai berthnasol fydd yn gofyn am dystiolaeth ddogfennol gyfreithiol o'r cysylltiad a nodwyd. Bydd y Galluogydd Tai Gwledig yn rhoi gwybod i chi pa dystiolaeth bydd angen i chi ei chasglu ar gyfer y Swyddog Tai. 

  •  Pa mor hir mae'r Polisi Gosod Tai'n Lleol yn parhau yn ei le?

     Mae'r Polisi Gosod Tai’n Lleol yn parhau yn ei le am oes yr eiddo. Bob tro y bydd yn cael ei ail-osod yn y dyfodol, bydd yn cael ei ddyrannu yn unol â'r Polisi Gosod Tai’n Lleol.

  •  Ble mae'r Polisiau Gosod Tai'n Lleol ar gyfer datblygiadau/eiddo penodol? 

    Mae Polisïau Gosod Tai’n Lleol ein holl safleoedd i'w gweld uchod. Dilynwch y ddolen ar gyfer y polisi gosod tai’n lleol penodol ar gyfer y safle hwn. 

Cyswllt

Gallwch gysylltu â'r Galluogydd Tai Gwledig fydd yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.


Beth Pickup, Galluogydd Tai Gwledig

 

Logo