Cost of Living Support Icon

Tai ac ynni

Cyngor ar sicrhau bod eich cartref mor ynni-effeithlon â phosibl i'ch helpu i arbed arian ar filiau tanwydd.

 

Help i ostwng biliau ynni eich cartref

Cyngor ar sicrhau bod eich cartref mor effeithlon o ran ynni â phosibl i'ch helpu i arbed arian ar filiau tanwydd.

Dŵr Cymru - Help gyda biliau

Gallech arbed hyd at £230 ar eich bil dŵr blynyddol gyda Dŵr Cymru. Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd ar-lein neu drwy ffonio 0800 052 0145 i siarad yn gyfrinachol gydag aelod o'u tîm.

Cyngor ar Bopeth - Help os na allwch fforddio ychwanegu eich mesurydd rhagdalu

Siaradwch ag ymgynghorydd ynni, cael credyd dros dro, gwiriwch a allech gael grant ynni neu daleb tanwydd.

Cynllun ECO4

Mae cyllid ECO4 yn helpu'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac sy'n agored i berygl o fyw mewn cartref oer, ac y mae eu tŷ yn aneffeithlon o ran ynni.

Grantiau a budd-daliadau

Dewch o hyd i wybodaeth am grantiau a budd-daliadau sydd ar gael i chi megis Gostyngiadau'r Dreth Gyngor neu Gredyd Pensiwn.

NYTH

Mae cynllun Nyth yn cynnig ystod o gyngor diduedd am ddim ac, os ydych yn gymwys, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel boeler newydd, gwres canolog, inswleiddio, neu baneli solar. Gall hyn ostwng eich biliau ynni a bod o fudd i'ch iechyd a'ch lles.

Cymru Gynnes

Nod Cymru Gynnes yw darparu cynhesrwydd fforddiadwy i gartrefi. Sicrhewch gyngor ar wneud y mwyaf o arian, diogelwch cartref a chymorth ariannol ar ynni yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

 

Band Eang rhatach

Pecynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a budd-daliadau eraill.

 

Mannau Cynnes

Rhwydwaith o fannau cymunedol sy'n cynnig lle cynnes a gwahoddol i ddod at ei gilydd heb unrhyw gost.

Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref

Rhestr o gynlluniau i helpu i wneud eich cartref ynni'n effeithlon, i gefnogi nod Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni gwael mewn cartrefi.

Lwfans Tanwydd y Gaeaf

Os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1959 gallech gael rhwng £100 a £300 i'ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer gaeaf 2025 i 2026.