Rydym ni'n darparu cyfleoedd chwarae mynediad agored cynhwysol ar draws y Fro, i blant 5 – 14 oed. Ymhlith ein Cyfleoedd y mae: Cynlluniau chwarae a ddarperir mewn adeiladau cymunedol gan gynnwys ysgolion a chanolfannau cymunedol; Ceidwaid Chwarae a geir mewn parciau a mannau agored; Crwydrwyr Coed mewn coedwigoedd ac ardaloedd coediog.
Datganiad Mynediad Agored
Mae ein gweithwyr chwarae yn cynnig man hwyliog, cyfeillgar a heriol sy’n canolbwyntio ar y plentyn i bob plentyn.
Caiff ein Darpariaeth Chwarae Clwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf ei hariannu i gefnogi plant ag anableddau ac anghenion ychwanegol a allai fod angen mwy o gefnogaeth nag y gellir ei gynnig yn ein lleoliadau mynediad agored.
Mae Clwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, modd gweld ein hadroddiad arolygu diweddaraf yma:
https://www.arolygiaethgofal.cymru/families-first-holiday-club
Os ydych yn dymuno trafod darpariaeth addas ar gyfer eich plentyn neu blentyn rydych chi'n gweithio gyda nhw, cysylltwch â ffhc@valeofglamorgan.gov.uk