Cost of Living Support Icon

Bydd Parc Porthceri ar gau i bob cerbyd o 4pm ddydd Mawrth 6ed Mai tan fore Gwener 9fed Mai ar gyfer gwaith ffordd hanfodol. Bydd llwybrau troed a llwybrau beicio yn aros ar agor ond efallai y bydd llwybrau yn cael eu newid, cadwch at arwyddion a rhwystrau. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

 

Y Berllan Gymunedol

Plannwyd 35 o goed ffrwythau gan geidwaid Porthceri ac aelodau o’r gymuned leol

 

Map of Porthkerry

Mae’r Berllan yn gymysgedd o goed ffrwythau safonol, yn cynnwys afalau, pêr ac eirin.

 

Mae’r berllan yn hygyrch i bawb sy’n cerdded drwy’r parc, ac unwaith bydd y coed wedi sefydlu, bydd y ffrwythau ar gael i’r gymuned leol. Bydd y berllan hefyd yn helpu i wella bioamrywiaeth y coetir drwy ddarparu bwyd i adar, mamaliaid a llawr o bryfed. Cafwyd grant i ariannu’r berllan gan fudiad Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Yn ogystal, mae’r ceidwaid wedi dechrau gweithredu cynllun i adnewyddu ac ailgenhedlu hen fathau o goed ffrwythau. 

 

Cymerwyd toriadau oddi ar hen goed afalau a phêr a dyfai yn y parc, ac oddi ar goed sy’n tyfu mewn gerddi a ffermydd yn y cyffiniau y tu hwnt i’r parc.

 

Cafodd y toriadau eu himpio ar stoc gwreiddiau i greu coeden newydd ar gyfer y berllan ac ardaloedd eraill yn y parc. Meithrinfa leol oedd yn gyfrifol am y gwaith impio.